Intro
Pennill 1
Dyma Gân Sy’n Siarad Am Yr Oerfel
Yr Oerfel Sy’ ‘Di Treiddio Mewn I ‘Nghalon Gynnes I
Mi Ddigwyddodd Hyn Mor Gyflym A More Dawel
Tra O’n Innau’n Syllu’n Eiddgar Ar Y Sioe O Nghwmpas I
Ond Mae’n Iawn
Yfory Ddaw
Fydda I’n Iawn
Yfory Ddaw
Pennill 2
Mi Glywaf Lais Yn Hedfan Ar Yr Awel
A Phan ‘Dwi’n Gwrando’n Astud
Ma Hi’n Sibrwd Wrtha I
Yn Deud Wrtha’i Ddod Yn Ôl I Mewn O’r Oerfel
‘Dwi’n Gweld O Ddyffryn Tywyll Fod Na Olau Yn Y Tŷ
A Mae’n Iawn
Yfory Ddaw
Fydda I’n Iawn
Yfory Ddaw
Cytgan
‘Na I Fadda’ I Fy Hun Am Bopeth ‘Dwi ‘Di Neud
A Madda’ I Bob Un Am Bopeth Sydd ‘Di Ddeud
A Fydda I’n Iawn
Popeth Yn Iawn Yn Y Bora
Dyma’r Ffordd Yn Ôl
Pennill 3
Mae’n Amser I Ni Ddatod Yr Holl Glyma’
Cawn Wared Ar Y Pwysa’ Oedd Yn Gwasgu Arnom Ni
‘Chos Rhywle Yn Y Dyffryn Mae ‘Na Ola’
Anghofiwch Am Y Tywyllwch
Dewch Yn Ôl At Wres Y Tŷ
Ond Mae’n Iawn
Yfory Ddaw
Fydda I’n Iawn
Yfory Ddaw
Cytgan
‘Na I Fadda’ I Fy Hun Am Bopeth ‘Dwi ‘Di Neud
A Madda’ I Bob Un Am Bopeth Sydd ‘Di Ddeud
A Fydda I’n Iawn
Popeth Yn Iawn Yn Y Bora
Dyma’r Ffordd Yn Ôl
I Weld Drwy Lygaid Y Plentyn Oeddwn I
Cyn I Mi Fynd Yn Hŷn A Mynd Fy Ffordd Fy Hun
Ond Fydda I’n Iawn
Popeth Yn Iawn Pan Ddaw’r Bora
Dyma’r Ffordd Yn Ôl
Dyma’r Ffordd Yn Ôl
Diweddglo
Pan Ti’n Teimlo’n Anniddig Yn Y Bora
Os Nei Di Fadda’ Fydd O’n Iawn
Achos Rhyw Fath O Ffisig Ydy Madda’
Yr Un Sydd Orau I Ni Go Iawn
Pan Ti’n Teimlo’n Anniddig Yn Y Bora
Os Nei Di Fadda’ Fydd O’n Iawn
Achos Rhyw Fath O Ffisig Ydy Madda’
Yr Un Sydd Orau I Ni Go Iawn