Pennill 1Mor Gas Yw Ffawd I Un Mor DlawdYr Hwn Sy’n Frawd I MiEr Yn Driw I’w Daith Flynyddoedd MaithMor Oer A Llaith Yw’r Lli’Ei Fryd Ynghlwm  Baich Mor DrwmMewn Byd Sy’n Llwm A BlinAc Fe Ddaw Yn Awr Mewn Blinder MawrGan Syrthio I Lawr Ar Ei LinFe Wêl O’i Flaen Y Gwir Mor BlaenWrth Wthio’r Maen I’r MurSef Bod Estyn Llaw I Frawd IslawYn Lleddfu Braw A ChurPennill 2A Gyda Hyn Fe Goda’n SynYn Syfrdan Wyn Ei WeddEr Yr Un O Hyd Fel Wêl Y BydYn Llawn O Hud A HeddFe Glywa Gân Ar Alaw LânEi Nodau’n Dân I GydAm Ryw Freuddwyd Bell Tu Hwnt I’r GellAm Fory Gwell I’r BydA’r Awydd Ddaeth Yn Syth Fel SaethI Dorri’r Caeth Yn RhyddDim Ond Estyn Llaw I Leddfu’n BrawFel Hyn Y Daw Ein DyddPennill 3Ar Lwybrau Maith Fe A Ar DaithDatgela’r Ffaith I’w FroEin Bod Oll YnghydHoll Bobloedd Byd O’r Union Fryg Ag OOnd Pawb A Glyw Nad Oes ‘Na DduwMai Diwedd Byw Yw’r BeddA Bod Angen Brys Wrth Dorchi’r CrysRhaid Torri Chwys I Gael HeddA Ninnau’n Ddall Y Naill A’r LlallHeb Weld Yn Gall Ers HirGan Mai Unig Fai’r Creadur ClaiYw Credu Llai Na’r Gwir