Pennill 1Ar Ôl Gweld Y LlunAr Ôl Gweld Drwy Y LlenYr Hyn Sy’n Dy Boeni DiYdi’r Geiria’n Dy BenBe’ Os ‘Does Dim Tawelwch?Be’ Os ‘Does ‘Na Ddim Trefn?Fel Y Cestyll Sydd Yn Dymchwel Ar Y TraethWrth I’r Llanw Eu Hadennill DrachefnCytganOnd Mae Cariad Fel Y Moroedd Sydd Yn Troi’n Gymylau GlawYna’n Disgyn Ar Fynyddoedd Ac Yn Casglu Yn Y BawCyn Llifo I Lawr Y Creigiau Ar Hyd Llwybrau Unig IawnOnd Bob Un Ddaw’n Ôl I’r Tonnau, Rhaid I’r Gylchred Fod Yn LlawnBob Un, Ei HunBob Un, Fel UnPennill 2Bob Un Sydd Â’i HwylBob Un Sydd Â’i RwyfBob Un Sydd Â’i Angor DromA Phob Un Sydd Â’i GlwyfUnig Iawn Yw’r PellteroeddRhwng Pob Capten, Rhwng Pob CwchOnd Yr Un Yw Ein Gobaith Ar Y DaithFelly Unwn Oll Mewn Ton O GyfeillgarwchCytganOnd Mae Cariad Fel Y Moroedd Sydd Yn Troi’n Gymylau GlawYna’n Disgyn Ar Fynyddoedd Ac Yn Casglu Yn Y BawCyn Llifo I Lawr Y Creigiau Ar Hyd Llwybrau Unig IawnOnd Bob Un Ddaw’n Ôl I’r Tonnau, Rhaid I’r Gylchred Fod Yn LlawnBob Un, Ei HunBob Un, Fel UnPontCoda’r Angor, Dyma’r AwrTua'r Gorwel Gwêl Y WawrMae’n Bryd I Ni Symud ’NôlTuag At Ein GwreiddiauI Gofio’r Hyn A Fu O’r BlaenI Ni Gyd Gael Symud ‘MlaenEfo’n Gilydd Awn Fel UnTuag At Y TonnauDiweddgloO, Ti’n Cofio’r Môr Yn DdaO, Tyrd At Y TonnauO, Ti’n Cofio’r Ffordd Yn DdaO, Tyrd At Y Golau