Pennill 1
Mor Gas Yw Ffawd I Un Mor Dlawd
Yr Hwn Sy’n Frawd I Mi
Er Yn Driw I’w Daith Flynyddoedd Maith
Mor Oer A Llaith Yw’r Lli’
Ei Fryd Ynghlwm  Baich Mor Drwm
Mewn Byd Sy’n Llwm A Blin
Ac Fe Ddaw Yn Awr Mewn Blinder Mawr
Gan Syrthio I Lawr Ar Ei Lin
Fe Wêl O’i Flaen Y Gwir Mor Blaen
Wrth Wthio’r Maen I’r Mur
Sef Bod Estyn Llaw I Frawd Islaw
Yn Lleddfu Braw A Chur
Pennill 2
A Gyda Hyn Fe Goda’n Syn
Yn Syfrdan Wyn Ei Wedd
Er Yr Un O Hyd Fel Wêl Y Byd
Yn Llawn O Hud A Hedd
Fe Glywa Gân Ar Alaw Lân
Ei Nodau’n Dân I Gyd
Am Ryw Freuddwyd Bell Tu Hwnt I’r Gell
Am Fory Gwell I’r Byd
A’r Awydd Ddaeth Yn Syth Fel Saeth
I Dorri’r Caeth Yn Rhydd
Dim Ond Estyn Llaw I Leddfu’n Braw
Fel Hyn Y Daw Ein Dydd
Pennill 3
Ar Lwybrau Maith Fe A Ar Daith
Datgela’r Ffaith I’w Fro
Ein Bod Oll Ynghyd
Holl Bobloedd Byd O’r Union Fryg Ag O
Ond Pawb A Glyw Nad Oes ‘Na Dduw
Mai Diwedd Byw Yw’r Bedd
A Bod Angen Brys Wrth Dorchi’r Crys
Rhaid Torri Chwys I Gael Hedd
A Ninnau’n Ddall Y Naill A’r Llall
Heb Weld Yn Gall Ers Hir
Gan Mai Unig Fai’r Creadur Clai
Yw Credu Llai Na’r Gwir