Intro
Pennill 1
O Daw, Daw Dydd Y Cei Fod Yn Rhydd
I Hedfan Uwch Y Mynydd
Cei Di Deimlo’r Awel Drwy’r Dail
Cei Ganu Dros Y Tir, Cyn Hir, Dan Yr Awyr Glir
Cei Wledda Ar Y Brastir
Ym Mhelydrau Tanbaid Yr Haul Cyn Hir
Cytgan
O Dderyn Bach Sydd Yng Nghell Fy Enaid I
Ti Fu’n Canu’n Daer I Mi
Wrth I’r Ddaear Fynd Ar Dân
Paid  Pheidio Canu’r Gân
Pennill 2
O Daw, Daw Awr Y Cei Weld Y Wawr
A’r Bore’n Llawn O Bersawr
Ac O Liwiau’r Holl Flodau Mân
Ac Yna Cei Dy Dro, ‘Dwi’n Addo, I Gael Gweld Y Fro
A’i Harddwch Unwaith Eto
Yn Blaguro I Alaw Dy Gân, Mae'n Wir
Cytgan
O Dderyn Bach Sydd Yng Nghell Fy Enaid I
Ti Fu’n Canu’n Daer I Mi
Wrth I’r Ddaear Fynd Ar Dân
Paid  Pheidio Canu’r Gân
O Dderyn Bach, Er Dy Fod Mewn Cawell Ddur
Dy Alawon Sudd Yn Bur
A Phan Geni Di Dy Gân
Rwyt Ti Mor Rhydd Â’r Adar Mân
Diweddglo
Cana Dy Gân I Mi, Codaf Fy Nghalon
Cadwa Fi’n Fodlon Drwy’r Nos Nes Ddaw’r Dydd
Cerddaf Ymlaen O Hyd I Sŵn Dy Alawon
Cadwa Fi’n Ffyddlon Nes Caf Fod Yn Rhydd
Cana Dy Gân I Mi, Codaf Fy Nghalon
Cadwa Fi’n Fodlon Drwy’r Nos Nes Ddaw’r Dydd
Cerddaf Ymlaen O Hyd I Sŵn Dy Alawon
Cadwa Fi’n Ffyddlon Nes Caf Fod Yn Rhydd
La La La La La La La La La La La
La La La La La La La La La La
La La La La La La La La La La La
La La La La La La La La La La
Daw Fe Ddaw Ddydd