Intro
Pennill 1
Ni Ddewisodd I Gadw’n Glir
Yn Ein Meddyliau ‘Da ‘Ni’n Cuddio’r Gwir
Mae Mor Hawdd I Ni Anghofio’r Daith
Yn Sgil Ein Hawydd I Osgoi Y Gwaith
Mae Hyn Yn Arwain Ni I Deimlo’n Gaeth
Dyna Pam Bo’ Petha’n Mynd Yn Waeth
I Ni Gael Gwybod Pam Fod Hyn Yn Bod
Mae’n Rhaid Ni Weld O Le ‘Da Ni Wedi Dod
Cytgan
Drwy Addewidion Gau
Arweiniwyd Pawb I’r Ffau
I Lawer Un Fy Ffrind
Gobaith Sydd Ar Fynd
Ond Os Weli Di Drwy Hyn
Fe Wêl Y Fflam Ynghyn
Yn Llygaid Llon Pob Un
Sy’n Trio Dallt Ei Hun
Pennill 2
Ni Ddewisodd I Gadw Draw
Pawb Â’u Betha’, Neb I Estyn Llaw
Cadw’r Rhai Sy’n Diodda Ar Hyd Braich
Gan Drio Peidio Meddwl Am Eu Baich
Chwilio Gysur Mewn Cyfoeth Lu
Gan Wadu Na Fydd Yn Ein Twyllo Ni
Y Rhai Sy’n Credu Yn Yr Ysgol Fawr
Yw’r Rhai Sy’n Brifo Pan Mai’n Syrthio I Lawr
Cytgan
Drwy Addewidion Gau
Arweiniwyd Pawb I’r Ffau
I Lawer Un Fy Ffrind
Gobaith Sydd Ar Fynd
Ond Os Weli Di Drwy Hyn
Fe Wêl Y Fflam Ynghyn
Yn Llygaid Llon Pob Un
Sy’n Dewis Dallt Ei Hun
Diweddglo
Os Dy Galon Di Sy’n Frau
Y T’wyllwch Fydd Yn Cau
A Daw Pwysau, Ar Dy Wên
Ar Dy Lais, Ar Dy Ffydd
Ond Os Credi Di Yn Dy Hun
Ac Mewn Eraill Sy’n Gytûn
Bydd 'Na Galon Yn Dy Wên
Yn Dy Lais, Yn Dy Ffydd
Cana Gân, Cana Gân
Cofia Fod Y Wawr Yn Dod
Dyro Wên, Cwyd Dy Lais, Cadwa’r Ffydd
Cana Gân, Cana Gân
Cofia Fod Y Wawr Yn Dod
Dyro Wên, Cwyd Dy Lais, Cadwa’r Ffydd