Chordyes

Y Gwerinwr

Bwncath의 Y Gwerinwr 가사

Pennill 1 Mor Gas Yw Ffawd I Un Mor Dlawd Yr Hwn Sy’n Frawd I Mi Er Yn Driw I’w Daith Flynyddoedd Maith Mor Oer A Llaith Yw’r Lli’ Ei Fryd Ynghlwm  Baich Mor Drwm Mewn Byd Sy’n Llwm A Blin Ac Fe Ddaw Yn Awr Mewn Blinder Mawr Gan Syrthio I Lawr Ar Ei Lin Fe Wêl O’i Flaen Y Gwir Mor Blaen Wrth Wthio’r Maen I’r Mur Sef Bod Estyn Llaw I Frawd Islaw Yn Lleddfu Braw A Chur Pennill 2 A Gyda Hyn Fe Goda’n Syn Yn Syfrdan Wyn Ei Wedd Er Yr Un O Hyd Fel Wêl Y Byd Yn Llawn O Hud A Hedd Fe Glywa Gân Ar Alaw Lân Ei Nodau’n Dân I Gyd Am Ryw Freuddwyd Bell Tu Hwnt I’r Gell Am Fory Gwell I’r Byd A’r Awydd Ddaeth Yn Syth Fel Saeth I Dorri’r Caeth Yn Rhydd Dim Ond Estyn Llaw I Leddfu’n Braw Fel Hyn Y Daw Ein Dydd Pennill 3 Ar Lwybrau Maith Fe A Ar Daith Datgela’r Ffaith I’w Fro Ein Bod Oll Ynghyd Holl Bobloedd Byd O’r Union Fryg Ag O Ond Pawb A Glyw Nad Oes ‘Na Dduw Mai Diwedd Byw Yw’r Bedd A Bod Angen Brys Wrth Dorchi’r Crys Rhaid Torri Chwys I Gael Hedd A Ninnau’n Ddall Y Naill A’r Llall Heb Weld Yn Gall Ers Hir Gan Mai Unig Fai’r Creadur Clai Yw Credu Llai Na’r Gwir