Intro
Pennill 1
Dewch Gyfeillion, Dewch I Rannu
Dewch I Ganu'r Gân Ynghŷd
Cân I Suo A Chysuro
Holl Amddifad Blant Y Byd
Er Fod Rhai Yn Dal I Ffraeo
Boed I Ninnau Gofio I Gyd
Fod Y Crëad, Er Ei Wead
Yn Ei Wraidd Yn Un O Hyd
Pennill 2
Dewch Gyfeillion, Dewch I Ganu
Dewch I Rannu'r Freuddwyd Fawr
Dyma'r Freuddwyd A Anghofiwyd
Yn Yr Oriau Cyn Y Wawr
Er Fod Stormydd Yn Awr Yn Rhuo
Yn Bygwth Diffodd Cannwyll Dy Ffydd
Os Daw Pob Un Fflam I Uno
Trown Y Nos Yn Olau Dydd
Pennill 3
Yna Fe Gawn Weld Ein Gilydd
Yng Ngoleuni'r Peraidd Dân
A Ddangosa I Ni'r Celwydd
Fu'n Caethiwo'r Galon Lân
Nid Oes Neb Sy'n Gallu Caru
Nad Yw'n Dysgu I Garu Ei Hun
Gan Mai Celwydd Yw'r Gwahanu
Sydd Yn Rith O Fewn Yr Un
Nid Oes Neb Sy'n Gallu Caru
Nad Yw'n Dysgu I Garu Ei Hun
Gan Mai Celwydd Yw'r Gwahanu
Sydd Yn Rith O Fewn Yr Un
************************************
| H Hammer-On
************************************